

Cefndir
Mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) wedi'i ddyrannu i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer gwaith craffu cyfnod 1.
Bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) a Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cyflwyno tystiolaeth ar fore y 9fed o Hydref. Marc Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, Cyngor Ynys Môn fydd yn cynrychioli CCAC a Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent dros CLlLC.
Ymateb i’r egwyddorion cyffredinol
Mae CLlLC a CCAC yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn cytuno y bydd y ddeddfwriaeth yn cefnogi nodau Cymraeg 2050.
Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch gweithredu'r Bil yn llwyddiannus oherwydd cynifer y diwygiadau addysgol ar waith ar hyn o bryd, a gan ystyried bydd llwyth gwaith y sector yn cynyddu eto o ganlyniad i’r Bil. Mae yna hefyd bryderon sylweddol oherwydd yr heriau cyllido ysgolion y mae Awdurdodau Lleol eisoes yn wynebu, a phryderon na fydd staff Awdurdodau Lleol nac ysgolion yn gallu cyflawni'r holl gynigion heb gyllid ychwanegol.
Rhan 1: Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.
· Mae CLlLC a CCAC yn gefnogol o sefydlu Cod sy'n disgrifio gallu Cymraeg fel rhan o'r is-ddeddfwriaeth, ar yr amod bod canllawiau clir i'w defnyddio fel bod hyn yn cael ei weithredu’n gyson.
· Byddai Awdurdodau Lleol yn croesawu mwy o eglurder ynghylch sut y bydd targedau ac amcanion gwahanol yn cael eu gosod a sut y bydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyfrifo a'u cofnodi, yn enwedig o ystyried yr heriau o asesu'n gywir faint o Gymraeg a ddefnyddir y tu allan i addysg statudol.
· Mae angen i dargedau fod yn realistig, gan ystyried cyd-destunau lleol a phroffiliau ieithyddol gwahanol. Bydd angen i dargedau hefyd fod yn ddigon hyblyg i ystyried newidiadau demograffig lleol a newidiadau mewn cyfraddau geni dros amser.
· Ar ben hynny, os oes disgwyliad y dylid dadansoddi niferoedd siaradwyr Cymraeg bob 5 mlynedd, bydd hyn yn heriol o fewn cylch 10 mlynedd casglu data'r Cyfrifiad. Bydd angen i dargedau a osodir mewn perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg ystyried sawl amgylchiad penodol a bydd angen hyblygrwydd er mwyn cymryd i ystyriaeth amrywiadau yn nifer y boblogaeth.
Rhan 2: Disgrifio gallu o ran y Gymraeg
· Croesewir lefelau cyfeirio cyffredin i ddiffinio hyfedredd Cymraeg, dylai hyn osod disgwyliadau clir, osgoi gwallau a dileu natur oddrychol yr hunanasesu.
· Bydd y continwwm sgiliau yn cefnogi'r holl randdeiliaid i fonitro cynnydd sgiliau Cymraeg ac i gynllunio'n strategol pa ymyriadau sydd eu hangen.
· Dylai rhannu continwwm sgiliau hefyd gefnogi recriwtio'r gweithlu a disgwyliadau cyflogwyr wrth benderfynu pa lefelau sy'n ofynnol ar gyfer pa rolau.
· Croesewir eglurder i rieni, athrawon a dysgwyr o'r cynnydd tuag at lefelau cyfeirio. Fodd bynnag, gall nod B2 erbyn diwedd addysg orfodol fod tu hwnt i afael rai dysgwyr.
Rhan 3: Addysg Cyfrwng Cymraeg
· Yn gyffredinol, mae Llywodraeth Leol yn cefnogi'r cynlluniau i wneud categoreiddio iaith yn statudol, ar yr amod bod digon o gyllid i gefnogi ysgolion i symud ar hyd continwwm y Gymraeg. Bydd symud i wneud categorïau'n statudol yn sicrhau bod dull cenedlaethol cyson a thryloyw, ac mae hyn yn cael ei groesawu.
· Mae cynghorwyr a swyddogion wedi codi pryderon ynghylch y diffyg cyllid i gefnogi'r cyfnod pontio hwn, yn enwedig yng nghyd-destun y pwysau ariannol presennol. Mae yna enghreifftiau lle mae cynghorau'n gorfod cau ysgolion cyfrwng Saesneg bach, tra'n cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn mannau eraill, sy'n achosi llawer o densiynau ar lefel leol. Os caiff y cyllid presennol ei ddargyfeirio mewn ffordd anghyfartal, yna bydd hyn ond yn cynyddu'r gwrthwynebiad a'r heriau i'r ddarpariaeth Gymraeg. Er mwyn cyrraedd y nodau addysg Gymraeg, bydd angen cyllid ychwanegol priodol ar yr ysgolion hyn.
· Yn gysylltiedig â'r pwynt uchod, mae rhywfaint o waith i'w wneud hefyd mewn rhai cymunedau i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn rhannu nodau CSCA yr Awdurdod Lleol, yn enwedig gan y bydd Cyrff Llywodraethu nawr yn cael y dasg o ddarparu cynlluniau cyflawni addysg Cymraeg ysgolion. Mae hyn yn rheswm arall dros sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr a bod rhywfaint o hyblygrwydd yn amseriad y newidiadau.
· Mae Awdurdodau Lleol eisoes yn gefnogol iawn o'r cyfle i gynllunio dros ddegawd ar gyfer amserlenni y CSCA, gan fod hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i ragweld a goresgyn heriau hirdymor a chynllunio'n strategol. Mae hefyd yn lleihau'r baich cynllunio a biwrocratiaeth. Ond, mae gan rai o'r cynigion ar gyfer cynlluniau ychwanegol o fewn y Bil amserlen llawer byrrach, er enghraifft mae'r tair blynedd ar gyfer cynlluniau cyflawni addysg Cymraeg ysgolion yn gymharol fyr o ystyried bod y CSGA yn gweithredu dros ddeng mlynedd.
· Mae CLlLC a CCAC yn poeni am y baich ychwanegol y bydd paratoi ac adolygu dogfennau rheolaidd yn ei roi ar staff ysgolion. Dylai unrhyw gynllun cyflawni gael ei integreiddio i gynlluniau gwella ysgolion i leihau llwyth gwaith a darparu dull cydlynol o wella ysgolion.
· Yn yr un modd, bydd derbyn a chymeradwyo cynlluniau cyflawni addysg Cymraeg ysgolion yn rhoi llwyth gwaith sylweddol ar Awdurdodau Lleol, hyd yn oed os oes templedi a chanllawiau ar gael. Yn ôl y cynlluniau, bydd angen i Gyrff Llywodraethu ysgolion gyflwyno cynlluniau drafft cyflawni addysg Cymraeg i Awdurdodau Lleol (gan gynnwys yr ymgynghoriad y mae'r ysgol wedi'i wneud) 9 mis cyn y cyfnod dechrau. Mae effaith hyn ar staff yr ysgol a staff yr Awdurdodau Lleol wedi'i thanamcangyfrif. Efallai y bydd angen hyfforddiant ychwanegol ar lywodraethwyr hefyd i'w cefnogi gyda'r maes gwaith hwn. Byddem yn croesawu canllawiau pellach i sicrhau bod cynlluniau cyflawni a Chynlluniau Datblygu Ysgolion yn cyd-fynd er mwyn osgoi unrhyw ddyblygrwydd.
· Mae ysgolion ‘dwy iaith’ angen eglurder o ran natur y ddarpariaeth gan na ellir diffinio'r disgwyliadau mor glir â chyfrwng Cymraeg (3) neu gyfrwng Saesneg (1). Mae categori ‘dwy iaith’ yn cael ei chysylltu â'r categori blaenorol ‘dwy ffrwd’ a'i ddrysu.
· Fel yr adroddwyd yn flaenorol, mae heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw digon o staff i ddarparu mwy o ddarpariaeth Gymraeg. Mae hyn ar draws sbectrwm ysgolion, ond yn enwedig mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg.
· Mewn perthynas ag Ysgolion Arbennig, croesawir nad oes dyletswydd arnynt i ddarparu swm penodol o ddarpariaeth Gymraeg ond yn hytrach dangos eu bod yn hyrwyddo'r Gymraeg gyda disgyblion neu ddarparu categori iaith ar sail wirfoddol.
· Mae Awdurdodau Lleol yn croesawu'r gallu ar gyfer ‘eithriad dros dro’ lle bo angen.
· Mae CLlLC a CCAC yn croesawu'r ddyletswydd a roddir ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo ac annog addysg drochi hwyr yn eu hardaloedd. Rydym yn gwybod o brofiad bod y galw am addysg o'r fath yn cynyddu, ac mae'n allweddol bod dysgwyr hŷn hefyd yn cael y cyfle i gael mynediad at y ddarpariaeth hon. Fodd bynnag, er mwyn i hyn lwyddo bydd angen mwy o gyllid i dalu costau cyfalaf a refeniw, yn ogystal â negeseuon cenedlaethol i hyrwyddo a rhoi sicrwydd i rieni di-Gymraeg o fanteision y ddarpariaeth hon i gynyddu'r galw.
· Mae gwahanol ardaloedd ar draws Cymru ar wahanol gamau o rhan eu darpariaeth trochi yn y Gymraeg. Lle mae'r ddarpariaeth ar gam cynnar, byddai Awdurdodau Lleol yn croesawu mwy o dystiolaeth ar yr effaith hirdymor ar addysg drochi ar nifer y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mewn Awdurdodau Lleol mawr gwasgaredig a heriau daearyddol, yn rhedeg darpariaeth sydd yn gostus iawn ac mae angen mwy o wybodaeth ar yr enillion ar y buddsoddiad cyn bod rhwymedigaeth statudol i redeg y ddarpariaeth.
Rhan 4: Cynllunio Addysg Gymraeg a Dysgu
· Rydyn yn croesawu cyflwyno Fframwaith Cenedlaethol ar addysg a dysgu Cymraeg gan y bydd hyn yn gosod cyfeiriad clir a chadarn i'r sector ac yn helpu gyda chysondeb. Er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn cael ei weithredu mae adran 23(3)(d) yn holl bwysig, mae'r gofyniad bod Llywodraeth Cymru yn "sicrhau bod hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ar gael ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru at ddiben gwella gallu yn y Gymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a baratowyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 6)". Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (neu'r Athrofa fel ei hail-enwir) rôl allweddol i'w chwarae yn gysylltiedig a hyn.
· O fewn y Fframwaith Cenedlaethol hwn, mae angen ystyried addasiadau realistig o ran amserlenni wrth edrych ar yr atebolrwydd o wireddu amcanion. Byddai yr hyblygrwydd yma yn helpu adlewyrchu newidiadau y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod Lleol, er enghraifft newidiadau ariannu prosiectau adeiladu cyfalaf.
· Mae targedau ar gyfer cynyddu nifer y bobl dros oedran ysgol sy'n dysgu Cymraeg yn her ychwanegol a bydd angen ystyried safbwyntiau sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, gan fod ganddynt rôl i'w chwarae wrth gyflawni'r targedau hyn.
· Er mwyn cefnogi'r maes gwaith cyfan hwn, bydd angen treulio mwy o amser ac adnoddau ar ddadansoddi a choladu data ar sgiliau Cymraeg ymarferwyr addysg, ac osgoi dibynnu gormod ar hunan-asesu. Bydd angen ystyried hyn mewn unrhyw dargedau sy'n codi o'r Fframwaith Cenedlaethol. Byddem yn croesawu mwy o eglurder ynghylch unrhyw drefniadau i wella'r gwaith o asesu sgiliau'r gweithlu a rhywfaint o ymgynghori cyn gwneud penderfyniadau.
Rhan 5: Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol
· Croesewir rôl y Ganolfan Ddysgu i gynnig cefnogaeth ganolog i ddysgu Cymraeg. Fel un sefydliad sy'n arbenigo mewn dysgu Cymraeg ar hyd bob cam dysgu, bydd hyn yn sicrhau parhad o ran darpariaeth, a llwybr clir o gefnogaeth a fydd yn darparu arweiniad ym mhob agwedd ar ddysgu'r Gymraeg.
· O ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol, byddai rhai awdurdodau hefyd yn croesawu mwy o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau'r Athrofa newydd a'i berthynas â chyrff cyhoeddus eraill sydd eisoes yn gweithredu yn y maes. Mae'n ymddangos bod rhai agweddau, fel gallu'r Athrofa i gomisiynu ymchwil neu roi cyngor yn gorgyffwrdd â Chomisiynydd y Gymraeg, felly byddai deall y diffiniad rhwng y rhain yn ddefnyddiol. Yn yr un modd, sut y bydd cyfrifoldeb yr Athrofa i yrru gwelliant parhaus yn cyd-fynd â gwaith Estyn?
Rhwystrau i weithredu darpariaethau'r Bil
Y tri rhwystr mwyaf i weithredu yw;
i. pwysau llwyth gwaith yng nghyd-destun cyflawni'r newidiadau hyn yn ogystal â diwygiadau addysgol eraill,
ii. pwysau ariannol ysgolion,
iii. a recriwtio, cadw a hyfforddi gweithlu sydd â'r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen i gyflawni'n llwyddiannus.
Mae'r rhwystrau a restrir uchod yn plethu a’u gilydd. Mae’r nifer o ddiwygiadau cenedlaethol, sy'n fwy heriol fyth i ddarparu o fewn cyd-destun yr anawsterau newydd y mae ysgolion yn eu hwynebu yn dilyn y pandemig, yn gorlwytho staff, sy'n risg i gadw a recriwtio'r gweithlu addysg. Mae cyllidebau craidd yr Awdurdodau Lleol a chyllidebau ysgolion hefyd wedi'u hymestyn yn llwyr, ac mae'r sector eisoes yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ymdopi â'r pwysau ariannol hyn. Felly, er bod CLlLC a CCAC yn gefnogol o lawer o egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, mae'n bwysig cydnabod y gallai cyflwyno'r newidiadau a amlinellir greu tensiwn ychwanegol os na wneir hyn yn raddol ac os nad oes digon o gyllid ychwanegol i dalu'r costau.
Is-ddeddfwriaeth
· Croesewir cynlluniau manwl sy'n ymwneud â deddfwriaeth.
· Croesewir y Cod sy'n disgrifio gallu Cymraeg fel rhan o'r is-ddeddfwriaeth ac unrhyw ddogfennau a thempledi canllaw eraill.
Canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil
· Mae mwy o waith fframio i'w wneud gyda rhieni a chymunedau lleol i rannu manteision symud ar hyd y continwwm iaith a manteision addysg ddwyieithog. Mae perygl y bydd rhai grwpiau rhieni yn cymryd yn groes i'r cynigion hyn a'r newid hwn heb fwy o waith ymgysylltu, yn enwedig os canfyddir bod cyllid yn cael ei ailgyfeirio heb ymgynghori.
· Gallai'r llwyth gwaith ychwanegol hefyd fod yn broblem i undebau gweithlu addysg.
· Gallai tensiynau godi hefyd os bydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ehangu ond y bydd ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn lleihau, yn enwedig os nad oes gan athrawon y sgiliau ieithyddol i wneud cais am swyddi sydd angen sgiliau Cymraeg lefel uwch.
Goblygiadau ariannol
· Ni ddylai unrhyw bwysau ariannol sy'n gysylltiedig â newidiadau i ysgolion a lleoliadau sy'n deillio o'r Bil gael ei ysgwyddo gan gyllidebau unigol ysgolion neu Awdurdodau Lleol.
· Mae unrhyw ddiwygiad sy'n cynnwys newidiadau statudol yn cymryd llawer o amser swyddogion yr Awdurdodau Lleol i weithredu, o gynhyrchu'r dogfennau priodol, cyhoeddi, coladu ymatebion, cynhyrchu adroddiadau i'w cymeradwyo gan y Cabinet a rheoli ymgysylltiad â'r ysgolion dan sylw. Mae timau swyddogion yr Awdurdodau Lleol yn fach iawn oherwydd effaith llymder ariannol o fewn Llywodraeth Leol ac nid oes digon o gapasiti i ymgymryd â gwaith ychwanegol. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu y cyllid y bydd angen i swyddogion yr Awdurdodau Lleol ac ysgolion ddatblygu a gweithredu cynlluniau ar gyfer y newidiadau statudol hyn.
· Mae CLlLC a CCAC yn rhagweld y bydd costau ychwanegol yn y meysydd canlynol:
- Cost hyfforddiant a recriwtio i uwchsgilio sgiliau Cymraeg ar bob lefel o'r gweithlu addysg.
- Cost addasu polisïau, datblygu canllawiau a hyfforddiant mewn perthynas â'r newid mewn deddfwriaeth.
- Cynnydd yn nifer y staff Awdurdodau Lleol sydd eu hangen i fonitro a herio cynlluniau ysgolion unigol.
- Mwy o ymgysylltiad rhwng yr Awdurdodau Lleol â Chyrff Llywodraethu ysgolion i gefnogi gyda datblygu, monitro a gweithredu cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg, ond hefyd i gefnogi penderfyniadau sy'n ymwneud â chategorïau iaith sy'n newid.
- Cyllid ychwanegol ar gyfer ymgysylltu a gweithio gyda rhieni a chymunedau i hyrwyddo manteision addysg Gymraeg ac i hyrwyddo mwy o leoedd trochi hwyr.